Drwy gytuno i gynnwys eich rhestrau eiddo yng Nghronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau a nodir isod.
1. Defnyddio Rhestrau Eiddo
1.1 Caiff asiantau eiddo masnachol ("Asiantau") gyflwyno rhestrau eiddo, gan gynnwys delweddau a disgrifiadau eiddo (gyda'i gilydd y "cynnwys"), i'w rhoi ar wefan Busnes Cymru ("ein gwefan"), neu optio i roi eu cynnwys ar ein gwefan.
1.2 Trwy gyflwyno cynnwys neu optio i mewn i'r gwasanaeth cydgasglu sy’n ein galluogi i gynnwys eich eiddo’n awtomatig drwy grynhoi cynnwys yn uniongyrchol o’ch gwefan i’w gynnwys ar ein gwefan ni (y “gwasanaeth cydgasglu”), mae Asiantau’n cadarnhau eu bod yn rhoi caniatâd i’w cynnwys gael ei arddangos ar Cronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru.
1.3 Mae asiantau’n cadw hawlfraint a pherchnogaeth lawn o'r holl gynnwys a gyflwynir ganddynt. Nid yw arddangos cynnwys o'r fath ar ein gwefan yn trosglwyddo perchnogaeth hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill i Cronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru.
1.4 Mae'n ofynnol i asiantau roi trwydded gyfyngedig i Lywodraeth Cymru ("ni") i ddefnyddio, storio a chopïo'r cynnwys a'i ddosbarthu a'i wneud ar gael i eraill at ddibenion arddangos eu heiddo mewn cysylltiad â'r gronfa ddata eiddo a ddarperir ar ein gwefan. Mae'r hawliau y mae Asiantau yn eu trwyddedu i ni yn cael eu disgrifio'n fanylach yn Amod 3 isod.
1.5 Trwy gyflwyno cynnwys neu optio i mewn i'r gwasanaeth cydgasglu, mae Asiantau hefyd yn cytuno bod gennym yr hawl i ddatgelu manylion adnabod yr Asiant i unrhyw un sy'n honni bod unrhyw gynnwys a gyflwynir gan yr Asiant i'n gwefan neu a gasglwyd fel rhan o'r gwasanaeth cydgasglu’n torri eu hawliau eiddo deallusol neu eu hawl i breifatrwydd.
1.6 Efallai y byddwn yn tynnu rhestrau eiddo Asiant neu unrhyw gynnwys arall a ddarperir gan Asiant o'n gwefan a/neu ddileu unrhyw ddolen i'r gwasanaeth cydgasglu os credwn yn rhesymol bod Asiant yn torri unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn.
2. Cyfrifoldeb am Gynnwys Rhestrau
2.1 Mae Cronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru yn gweithredu fel llwyfan i arddangos rhestrau eiddo a gyflwynwyd gan Asiantau. Nid ydym yn creu, yn golygu, nac yn gwirio cywirdeb y cynnwys a ddarperir.
2.2 Mae Asiantau’n cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw wallau, hepgoriadau, camddatganiadau, neu honiadau sy'n gysylltiedig â chynnwys a ddarperir gan Asiantau, gan gynnwys disgrifiadau, delweddau, prisiau, neu argaeledd.
3. Eiddo Deallusol
3.1 Bydd yr holl gynnwys a ddarperir gan Asiantau’n parhau i fod yn eiddo deallusol i'r Asiantau priodol.
3.2 Gall Cronfa Ddata Eiddo Busnes Cymru ddefnyddio, arddangos a rhannu cynnwys a ddarperir gan Asiantau at ddibenion arddangos eiddo, hyrwyddo ein gwefan, a hwyluso ymholiadau.
3.3 Trwy gyflwyno cynnwys i'n gwefan neu optio i mewn i'r gwasanaeth cydgasglu, mae Asiantau’n rhoi'r hawliau canlynol i ni ddefnyddio'r cynnwys:
(a) trwydded fyd-eang, nad yw'n unigryw, di-freindal, trosglwyddadwy i ddefnyddio, storio, atgynhyrchu, dosbarthu, paratoi gweithiau deilliadol o'r cynnwys ac arddangos y cynnwys at ddibenion arddangos eiddo a hwyluso ymholiadau mewn cysylltiad â'r gronfa ddata eiddo a ddarperir gan ein gwefan; gan gynnwys hyrwyddo ein gwefan neu'r gwasanaethau a ddarperir ar ein gwefan, gyda'r drwydded honno'n dod i ben pan gaiff y cynnwys ei ddileu neu ei dynnu oddi ar ein gwefan; a
(b) trwydded fyd-eang, nad yw'n unigryw i ddefnyddwyr eraill ddefnyddio'r cynnwys yn unol â swyddogaeth ein gwefan, trwydded o'r fath i ddod i ben [pan fydd y cynnwys yn cael ei dynnu oddi ar ein gwefan].
3.4 Trwy gyflwyno cynnwys i'n gwefan neu optio i mewn i'r gwasanaeth cydgasglu, mae Asiantau'n gwarantu ac yn cadarnhau i ni:
(a) bod ganddynt yr holl hawliau, pwerau a chaniatâd angenrheidiol i roi'r trwyddedau fel y nodir yn Amod 3.3 uchod; a
(b) eu bod yn berchen ar y cynnwys y maent yn ei gyflwyno neu eu bod wedi'u hawdurdodi i ddarparu'r cynnwys hwnnw ac nad yw'r cynnwys hwn yn torri ac na fydd yn torri unrhyw hawlfraint neu hawl eiddo deallusol arall sy'n bodoli eisoes; a
(c) bod y cynnwys a ddarperir ganddynt yn wir ac yn gywir ac os caiff ei gyhoeddi ni fydd yn drosedd o dan unrhyw ddarpariaeth statudol nac yn torri unrhyw godau ymarfer sy'n ymwneud â hysbysebu neu hyrwyddo gwerthiant.
3.5 Mae asiantau’n cytuno i fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gennym ni neu unrhyw un arall o ganlyniad i unrhyw achos o dorri'r gwarantau a nodir uchod.
3.6 Ac eithrio fel y nodir uchod, mae'r hawliau eiddo deallusol yn ein gwefan ac unrhyw gynnwys sy'n hygyrch o'n gwefan yn eiddo i ni neu'n trwyddedwyr.
4. Cyfyngiad Atebolrwydd
4.1 Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ein rhwymedigaeth i Asiantau neu ddefnyddwyr ein gwefan lle byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantau neu isgontractwyr am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
4.2 Yn ddarostyngedig i Amod 4.1 uchod, rydym yn eithrio pob amod, gwarant, sylwadau neu delerau eraill ymhlyg a allai fod yn berthnasol i'n gwefan neu unrhyw gynnwys arni.
4.3 Ni fyddwn yn atebol i Asiantau na defnyddwyr ein gwefan am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, sy'n deillio o dan neu mewn cysylltiad â: (i) defnydd o, neu anallu i ddefnyddio, ein gwefan; neu (ii) defnyddio neu ddibynnu ar, unrhyw gynnwys a ddangosir ar ein gwefan. Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am golli elw, gwerthiannau, busnes na refeniw; ymyrraeth â busnes; colli cynilion disgwyliedig, colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu unrhyw ddifrod anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol sy'n deillio o'r defnydd o restrau eiddo ar y wefan.
4.4 Gofynnir i ddefnyddwyr ein gwefan gydnabod bod rhestrau eiddo’n cael eu darparu "fel y maent," ac mae unrhyw ddibyniaeth ar wybodaeth o'r fath ar risg y defnyddiwr ei hun.
5. Cyfraith Lywodraethol
5.1 Mae'r telerau ac amodau hyn, eu pwnc a'u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghytundebol) yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
5.2 Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.